Mae'r Venus Legende yn delyn fach gyda chalon enfawr. Yr unig model Venus 46-tant gyda seinfwrdd syth, y mae'r delyn hon yn  eithriadol am y pris, yn dangos y crefftwaith a'r ansawdd arbennig y mae Venus yn enwog amdanynt, ac yn cynhyrchu sain eiddfed a soffistigedig heb ei ail i gymharu ar unrhyw delyn arall o'r un maint.

Mae gennym ddwy mewn stoc ar hyn o bryd, un mewn Mahogani Coch gyda seinfwrdd plaen fel y gwelir o dan ar y chwith ac yn y canol, ac un mewn masarn "llygad aderyn" naturiol gyda seinfwrdd plaen - telyn hynod o hardd oherwydd natur y pren a'i graen unigryw, a welir yn anaml iawn y dyddiau yma.