|
Pren Masarn naturiol, gorffeniad sidan, wedi 'i pheinto gyda gwaith cwlwm a chynllun anifeiliaid celtaidd. £2900 yn cynnwys TAW |
Y "Clarsach" 34 Tant A 1af - C 6ed : Tannau tyndra cyngerdd Comisiynwyd yn wreiddiol gan y diweddar Derek Bell, telynor gyda'r "Chieftains", mae'r Clarsach Pilgrim yn delyn heb ei hail o ran ehangdra a dyfnder ei lliwiau cerddorol a deinameg. Er iddi gael ei chynllunio yn wreiddiol ar gyfer y byd gwerin, mae'r delyn yma hefyd yn ddelfrydol ar gyfer plant sydd yn y pendraw yn dymuno symud ymlaen i'r delyn bedal clasurol, gan mai tyndra'r tannau a'r bylchau rhyngddynt yn union yr un fath a'i chefnder gerddofaol grand. Mae gennym ddwy mewn stoc ar hyn o bryd, un fel y gwelir ar y chwith, a'r llall yn un ddau-liw, wedi 'i gwneud o hanner pren Masarn a hanner Afrormosia. Mae'r rhain ar gael ar gyfer prynu yn y fan a'r lle, neu fyddwn yn hapus rhoi cyngor ar gerfio a pheintio arbennig er mwyn i chi archebu eich offeryn unigryw, personol eich hunan. Mae'r Clarsach heb ei haddurno hefyd ar gael i'w llogi. Gweler hefyd y tudalennau ail-law.
|
Pren Afroformosia cwyredig neu sidan, llafnau hanner-tôn pres, ar goesau £2250 yn cynnwys TAW
|